John Gwyn Griffiths
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd John Gwyn Griffiths (7 Rhagfyr 1911 - 15 Mehefin 2004) yn ysgolhaig, yn feirniad ac yn olygydd, a aned yn y Porth, y Rhondda.
Cyhoeddodd J. Gwyn Griffiths astudiaethau ar destunau Groeg a Lladin ac ar grefydd yr Aifft. Bu'n athro yn y Clasuron ac Eifftoleg yng ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe.
Roedd yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Moreia, yn y Pentre, Rhondda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn y Porth, graddio mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna astudiodd Eiffteg a Hebraeg ym Mhrifysgol Lerpwl am dair blynedd, cyn bod yn fyfyriwr ymchwil yn Rhydychen. Bu'n athro Lladin yn ei hen ysgol yn y Porth ac yn y Bala cyn cael ei apwyntio yn 1946 yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.
Roedd yn llenor ac yn un o sylfaenwyr Cylch Cadwgan gan gyhoeddi cyfrolau o farddonaieth ac astudiaethau llenyddol.
Roedd yn genedlaetholwr brwd a safodd etholiadau dros Blaid Cymru.
Roedd yn briod â'r llenor a'r arbenigwraig ar Eifftoleg, sef Kate Bosse Griffiths.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Conflict of Horus and Seth (1961)
- Origins of Osiris (1966)
- Plutarch's de Iside et Osiride (1970)
- Metamorphoses, Apuleius (1975)
- The Origins of Osiris and Isis Cult (1980)
- The Divine Verdict (1991)
- Barddoneg Aristotles (2001) - cyfieithiad o farddoniaeth Aristotles
- barddoniaeth:
- Yr Efengyl Dywyll (1944)
- Ffroenau'r Ddraig (1961)
- Cerddi Cairo (1969)
- Cerddi'r Holl Eneidiau (1981)
- Anarchistiaeth (1944)
- Y Patrwm Cydwladol (1949)
- I Ganol y Frwydr (1970)
[golygu] Cysylltiadau allanol
- llith coffa gan Heini Griffiths (darllenwyd 9 Gorffennaf 2006)
- Meic Stevens ar wefan BBC Cymru (darllenwyd 9 Gorffennaf 2006)