David Richards (Dafydd Ionawr)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd David Richards, enw barddol Dafydd Ionawr (1751-1827), yn fardd a aned ger Tywyn, yn yr hen Sir Feirionydd, gogledd-orllewin Cymru.
[golygu] Ei fywyd
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Edward Richard yn Ystradmeurig, Ceredigion. Astudiodd yn Rhydychen am beth amser, ar annogaeth Ieuan Brydydd Hir. Bu'n cadw ysgol mewn sawl man cyn ymsefydlu yn Nolgellau.
[golygu] Ei waith llenyddol
Yr oedd yn fardd o duedd cwbl wahanol i feirdd serch y 18fed ganrif fel Rhys Jones o'r Blaenau. Yn ogystal nid oedd yn eisteddfodwr. Roedd yn ddyn o anian dawel, dwys a difrifol, a gwrthwynebai'n gryf rhai o syniadau radicalaidd Cymry Llundain, yn arbennig y Gwyneddigion. Roedd yn gynghaneddwr da. Canai bron yn gyfangwbl ar bynciau ysgrythurol. Ei brif waith yw "Cywydd y Drindod" (1793), cerdd hir iawn ar natur y Drindod; ond er fod rhannau o'r gerdd yn cynnwys delweddau diddorol mae ei ffaeleddau'n amlwg. Serch hynny roedd yn gerdd arloesol yn y Gymraeg.
Cyhoeddodd y gweithiau a ganlyn yn ystod ei oes:
- Y Mil-Blynyddau (1799)
- Gwaith Prydyddawl (1803)
- Joseph, Llywodraethwr yr Aipht (1809)
- Barddoniaeth Gristianogawl (1815)
- Cywydd y Dilyw (1821)
[golygu] Llyfryddiaeth
Golygodd Nicander gasgliad o waith y bardd yn 1851.