Bioleg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|
Bioleg - neu Bywydeg - yw'r maes gwyddonol sy'n astudio bywyd. Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiadau organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth, a'r rhyngweithiad sydd gennynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd.
Mae bioleg yn amgylchynu sbectrwm llydan o feysydd academaidd sy'n astudio ac archwilio pob rhan o natur. Botaneg yw astudiaeth planhigion, sŵoleg yw astudiaeth anifeiliaid ac anthropoleg yw'r adran o bioleg sy'n astudio bodau dynol. Ar y raddfa moleciwlaidd, astudir bywyd o fewn y pynciau bioleg moleciwlaidd, biocemeg, a geneteg moleciwlaidd. Ar y lefel nesaf, sef y gell, caiff ei astudio mewn bioleg cell, ac ar graddfeydd amlgellog, caiff ei astudio o fewn ffisioleg, anatomeg, a histoleg. Mae bioleg ddatblygiadol yn astudio bywyd ar lefel ddatblygiad organeb unigol neu ontogenesis. Yn symud lan y graddfa i mwy nag un organeb, mae geneteg yn astudio i sut mae etifeddeg yn gweithio rhwng rhiant ac epil. Mae etholeg yn astudio ymddygiad grŵp mwy nag un unigolyn. Mae geneteg poblogaeth yn edrych ar lefel holl boblogaeth, ac mae systemateg yn astudio'r graddfa aml-rhywogaeth o linachau. Astudir poblogaethau cyd-ddibynnol a'u cynefinoedd yn ecoleg a bioleg esblygiadol. Maes dyfaliadol newydd yw estronbioleg, sy'n archwilio i'r tebygolrwydd o bywyd tu hwnt i'r Ddaear.
[golygu] Dosbarthiad bywyd
Gelwir y system dosbarthiad dominyddol yn tacsonomeg Linnaeus, sy'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Côd Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Côd Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICZN), a Chôd Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn gweld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.
[golygu] Pethau byw
[golygu] Hanes
Prif erthygl: Hanes bioleg
Mae prif darganfyddiadau bioleg yn cynnwys: