Bill Gates
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
William Henry Gates III (ganed 28 Hydref 1955) neu Bill Gates yw cyd-sylfaenydd a phennaeth cwmni cyfrifiadurol Microsoft. Ef yw'r dyn cyfoethocaf yn y byd ers sawl blwyddyn bellach. Gadawodd Brifysgol Harvard heb raddio er mwyn dilyn ei freuddwyd o greu meddalwedd gyfrifiadurol. Oherwydd ei ddulliau dadleuol o hybu llwyddiant Microsoft drwy sathru ar unrhyw gystadleuaeth a cheisio creu monopoli i'w gynnyrch, mae wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth ar hyd y blynyddoedd; ond dywed ei bleidwyr ei fod yn ddyngarwr, a'i fod wedi rhoi mwy na $28 biliwn i elusennau yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.