Yr Ymerodraeth Ottoman
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
||
Arwyddair yr Ymerodraeth: | ||
Iaith swyddogol | Twrceg Ottoman | |
Prifddinas | İstanbul (Caergystennin) | |
Brenhinoedd | Swltaniaid y teulu Osmanli |
|
Poblogaeth | tua 40 miliwn | |
Sefydlu | 1281 | |
Diddymu | 29 Hydref 1923 | |
Arian | Akçe | |
Y faner Ottoman | ||
Rhan o Hanes Twrci |
Gwladwriaeth Dwrcaidd yn y Dwyrain Canol yn cynnwys Anatolia (neu Asia Leiaf), rhan o dde-orllewin Asia, gogledd Affrica a de-ddwyrain Ewrop oedd yr Ymerodraeth Ottoman. Fe'i sefydlwyd gan y Tyrciaid Oghuz, llwyth Tyrcaidd o orllewin Anatolia, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac fe'i diddymwyd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf ac esgyniad Kemal Atatürk i rym. Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg roedd hi'n un o'r ymerodraethau mwyaf nerthol yn y byd ac roedd gwledydd Ewrop yn wyliadwrus ohoni oherwydd ei bod yn dal i ehangu ei thiriogaethau ar orynys y Balkan.
Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I (Uthmān, yn Arabeg; sail enw Ottoman). O'r flwyddyn 1453 ymlaen Caergystennin, a ddaeth i'w galw'n İstanbul) ar ôl hynny, oedd prifddinas yr ymerodraeth.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I ym 1281. Cipiodd y Swltan Mehmed II Gaergystennin (Istanbul heddiw) ym 1453 a datblygodd ei deyrnas i fod yn ymerodraeth enfawr. Roedd ei ffiniau ar ei ehangaf yn ystod tyernasiad Suleiman y Godidog yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pan yr oedd yn cynnwys yr holl dir rhwng Gwlff Persia yn y dwyrain a Hwngari yn y gorllewin, ac o'r Aifft yn y de i'r Cawcasws yn y gogledd. Ym 1683 gorchfygwyd yr ymerodraeth ym Mrwydr Fienna ac yn sgîl hynny dirywiodd yn araf cyn cael ei gorchfygu yn derfynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
[golygu] Strwythr yr ymerodraeth
Pen y hierarchaeth oedd y swltan. O dan y swltan yr oedd fisierau, swyddogwyr llys eraill ac arweinwyr milwrol.
[golygu] Diwylliant
Er iddi fod yn wlad grefyddol iawn yn y dechrau gan fod y rheolwyr yn Gazi (Rhyfelwyr Sanctaidd) ac yn cymryd rhan mewn Jihad (Rhyfel Sanctaidd) yn erbyn Cristnogaeth, ar ôl chwalu'r Bysantiaid o Anatolia a'u gyrru i Ewrop, roedd yr ymerodraeth yn oddefgar iawn. Yn ystod y cyfnod pan ehangodd ei thiriogaeth i'r gorllewin, cymhathodd y diwyllianau Groeg a Balcanaidd ac roedd arweinwyr Twrci ei hunain yn derbyn rhan o'r diwylliant gorllewinol. Fel hynny, creuasant ddiwylliant Ottoman arbennig.
Ar ôl cipio Caergystennin ym 1453 ni ddinistriwyd yr eglwysi a dim ond nifer fach ohonynt a drowyd yn fosgiau (er enghraifft Hagia Sophia yn Istanbul). Roedd bywyd y llys Ottoman fel bywyd Shahau Persia, ond roedd yna ddylanwad Ewropeaidd (Groegaidd yn bennaf), yn ogystal. Am ganrifoedd bu Iddewon Ewrop yn ffoi i'r Ymerodraeth Ottoman am noddfa.
[golygu] Strwythr milwrol
Roedd strwythr milwrol yr ymerodraeth yn gymhleth iawn. Roedd y gwŷr meirch ysgafn yn bwysicaf, ac roedd ganddynt ffiffau o'r enw timar. Roeddynt yn defnyddio bwâu, cleddyfau ac yn ymladd â thactegau cyffelyb i rheini Ymerodraeth y Mongoliaid; hwy hefyd oedd y lluoedd cyntaf i ddefnyddio musgedi. Roedd llu y Janisariaid yn enwog fel llu arbennig y swltan.
Fodd bynnag, o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen roedd cryfder y lluoedd Ottoman yn lleihau am nad oeddynt wedi cael eu diwygio a hefyd - yn bennaf, efallai - oherwydd llygredd y Janissary, a dileuwyd mewn canlyniad ym 1826.
[golygu] Taleithiau
Pan oedd tiriogaeth yr ymerodraeth ar ei ehangaf, roedd hi'n cynnwys 29 o daleithiau, tair talaith deyrnngedol a thalaith ddeiliad Transsylvania, teyrnas yr oedd ei llywodraethwyr wedi tyngu llw o deyrngarwch i'r swltan.
[golygu] Swltaniaid
Y swltan oedd unig lywodraethwr yr ymerodraeth ac ef ei hun oedd y llywodraeth swyddogol. Enw teuluol y swltans oedd Osmanli. Ond yn y dechrau, nid swltans ond beys oeddynt.
|
|