Soned
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Darn o farddoniaeth delynegol bedair llinell ar ddeg yw soned. Rhennir yn wythawd ac yn chwechawd, ac fel arfer ceir newidiad neu droad ar ôl yr wythfed llinell. Mae dau fath o soned: sef y math Petrarchaidd neu Eidalaidd a'r math Shakesperaidd. Cynllun odlau y soned Eidalaidd yw abba, abba, c ch d, c ch d ac i'r soned Shakesperaidd ceir y patrwm odl a b a b, c ch c ch, d dd d dd, e e. Gyda chwpled ar y diwedd disgwylir bod yna glo effeithiol i'r gerdd yn y cwpled olaf. Mae R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams yn sonedwyr o fri. Engraifft dda yw Y Llwynog gan R. Williams Parry.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.