Robert Roberts (Silyn)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd, sosialydd a diwygiwr cymdeithasol oedd Robert "Silyn" Roberts (1871 - 1930), a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon, gogledd Cymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yna i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala. Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.
Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.
[golygu] Gwaith llenyddol
Gyda'i gyfaill W.J. Gruffydd, cymerodd ran flaenllaw yn y farddoniaeth delynegol newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif. Uchafbwynt eu cydweithrediad oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd yn 1900.
Fel yn achos W.J. Gruffydd, nodweddir barddoniaeth Silyn gan ei delfrydiaeth a'i rhamantiaeth delynegol.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Silyn
- (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
- Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
- Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad.
- Bugail Geifr Lorraine (1925). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.
- Cofarwydd (1930). Detholiad o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
- Llio Plas y Nos (1945). Nofel a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
[golygu] Bywgraffiad
Ceir bywgraffiad iddo gan David Thomas (1956).