Tan-y-grisiau
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hen bentref chwarel yw Tan-y-grisiau (hefyd Tanygrisiau), ger Blaenau Ffestiniog yn Ngwynedd.
Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.
Yn agos i Dan-y-grisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr.
Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref.
[golygu] Enwogion
Brodor o Dan-y-grisiau oedd y bardd ac emynydd Moelwyn (1866-1944). Roedd ei emynau'n boblogaidd iawn ar droad yr 20fed ganrif. Bardd arall o'r pentref oedd Lewis Moelwyn Jones (Lewis Moelwyn).
Bu'r bardd a diwygiwr cymdeithasol Silyn yn weinidog yn Nhan-y-grisiau o 1905 hyd 1912.