Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhif cofrestru a defnyddir mewn siopau llyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number). Defnyddir ar llyfrau ac ar meddalwedd, ond dim ar cyfnodolion (defnyddir ISSN i'r rheini) neu mewn llyfrgell.
Mae un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol gan pob llyfr wedi ei gofrestru a dydy'r rhif ddim yn newid oherwydd argraffiad newydd - heblaw am argraffiad newydd gan testyn y llyfr wedi newid yn sylweddol -, ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i'r hyn llyfr clawr caled. Beth bynnag, does Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol dim ar pob llyfr am fod llawer o wasgau bychain heb cofrestru eu llyfrau.
[golygu] Hanes
Roedd pobl yn Ewrop yn ystyried cyflwyno rhif cofrestru llyfrau ers y 1960au ac ym 1968 roedd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) yn dechrau gweithgor i gynllunio rhif felly. Ym 1972 daeth ISO 2108 ar gyfer y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn rym.
Ar hyn o bryd defnyddir rhif cofrestru wahanol yn Unol Daleithiau, ond bydd hynny'n newid a felly bydd y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn hirach yn y dyfodol (mae cynllun defnyddio rhif hir newydd ar 1 Ionawr, 2007).
[golygu] Ystyr y rhif
Mae'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn cynnwys côd ar gyfer gwlad, gwasg a teitl y llyfr yn ogystal a swm prawf (checksum). Fel arfer, mae cysylltnod (-) rhwng pob côd.
- Y rhif cyntaf yw rhif yr ardal, er enghraifft mae "0" neu "1" yn rhif gwledydd ble siaredir Saesneg (y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau, Awstralia, India), "2" yn rhif gwledydd ble siaredir Ffrangeg a "3" yn rhif gwledydd ble siaredir Almaeneg.
- Yr ail rhif yw rhif y wasg sydd yn cael ei ddosbarthu gan Asiant ISBN Cenedlaethol neu Leol.
- Y trydydd rhif yw rhif y teitl. Gall y gwasg dewis y rhif hon. Mae'n rhaid i'r Rhif newid ar gyfer clawr newydd, tomenau sydd ar werth ar wahân ac ati.
- Y rhif olaf yw'n swm prawf (checksum). Gall fod yn rhif neu yn "X".