Castell Conwy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell yn nhref Conwy ar lannau yr afon yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan James o St George ac fe'i adeiladwyd gan frenin Lloegr, Edward I, er fod Richard of Chester yn gyfrifol yn y ddechrau (1283). Adeiladwyd y castell ar ben adfeilion abaty, ac mae mur o gwmpas y dref cyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref. Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac, fel un o gestyll Edward I yng ngogledd Cymru, mae ar restr Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.
Ym 1401, yn ystod y gwrthryfel, concrodd cefnogwyr Owain Glyndwr y castell, a llosgwyd y dref.