James Callaghan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- James Callaghan gwahanol oedd yr AS am sedd Heywood a Middleton.
Cyfnod mewn swydd | 5 Ebrill 1976 - 4 Mai 1979 |
Rhagflaenydd: | Harold Wilson |
Olynydd: | Margaret Thatcher |
Dyddiad geni: | 27 Mawrth 1912 |
Dyddiad marw: | 26 Mawrth 2005 |
Lleoliad geni: | Portsmouth, Hampshire |
Lleoliad marw: | Ringmer, Dwyrain Sussex |
Plaid wleidyddol: | Llafur |
Anrhydedd wedi ymddeol: | Urdd y Gardys Barwniaeth am oes (Callaghan o Gaerdydd) |
Leonard James Callaghan, Arglwydd Callaghan o Gaerdydd, KG, PC (27 Mawrth 1912 – 26 Mawrth 2005), oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mewn llywodraeth Lafur rhwng 1976 a 1979. Adnabyddid ef wrth ei ail enw, James, wedi'i fyrhau i Jim yn aml, Llysenw arno yn aml oedd "Sunny Jim" neu "Big Jim". Ef yw'r unig berson sydd wedi llenwi pedair swydd bwysicaf y llywodraeth, sef Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Tramor a Phrif Weinidog; yn wir, efe yw'r unig berson sydd wedi llenwi y tair swydd gyntaf ar y rhestr yna. Ar 14 Chwefror, 2005, rhagorodd ef Harold Macmillan fel y Prif Weinidog Prydeinig ag oedd wedi byw yn hiraf, sef i'r oedran o 92 mlynedd, 10 mis ac 18 dydd.
Canghellor y Trysorlys oedd Callaghan rhwng 1964 a 1967:cyfnod cythryblus i'r economi Brydeinig. Yr oedd angen diffyg balans taliadau ac roedd yr ariannwyr stoc yn ymosos ar y bunt sterling. Yn Nhachwedd 1967, gorfodwyd y Llywodraeth i ddibrisio'r bunt. Cynigodd Callaghan ymddiswyddo, ond darbwyllwyd ef i gyfnewid swydd â Roy Jenkins, ac Ysgrifennydd Cartref fu Callaghan rhwng 1967 a 1970. Yn y swydd honno ef anfonodd yFyddin Brydeinig i Ogledd Iwerddon ar ôl derbyn cais oddi wrth Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad Cyffredinol yn Mawrth 1974 daeth Callaghan yn ôl i'r Cabinet fel Ysgrifenydd Tramor, gan gynnwys y cyfrifoldeb o ailgytundebu aelodaeth Prydain yn y Farchnad Gyffredin. Cefnogodd y bleidlais "Ie" yn refferendwm 1975 dros gadw Prydain yn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC). Pan ymddiswyddodd Harold Wilson ym 1976, etholwyd Callaghan fel arweinydd Llafur gan yr aelodau seneddol. Roedd ei unig dymor fel Brif Weinidog yn annodd gan nad oedd gan Lafur fwyafrif yn y Tŷ'r Cyffredin. Roedd rhaid iddo trafod gyda'r pleidiau bach megis yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon a Phlaid Venedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng Llafur a'r Blaid Ryddfrydol. Er fod Callaghan wedi bod yn gefnogwr i'r undebau, roeddent yn gwneud pethau'anodd iddo ac yr oedd y cytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr yn fregus. Yn ystod gaeaf 1978 a ddechrau 1979, cafwyd nifer o streiciau difrifol. Ar 28 Mawrth 1979 cafwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y senedd ac fe gollwyd y bleidlais ac yn y bu rhaid iddo alw etholiad cyffredinol, yn yr Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979 hwnnw, trechwyd Llywodraeth Callaghan yn drwm gan y Blaid Geidwadol a daeth Margaret Thatcher yn brif weinidog.
Rhagflaenydd: Reginald Maudling |
Canghellor y Trysorlys 16 Hydref 1964 – 30 Tachwedd 1967 |
Olynydd: Roy Jenkins |
Rhagflaenydd: Roy Jenkins |
Ysgrifennydd Cartref 30 Tachwedd 1967 – 19 Mehefin 1970 |
Olynydd: Reginald Maudling |
Rhagflaenydd: Alec Douglas-Home |
Ysgrifennydd Tramor 5 Mawrth 1974 – 8 Ebrill 1976 |
Olynydd: Anthony Cosland |
Rhagflaenydd: Harold Wilson |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 5 Ebrill 1976 – 4 Mai 1979 |
Olynydd: Margaret Thatcher |
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.