Gwyddbwyll
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau gwyn a du yw gwyddbwyll. Bwriad y gêm yw i ymosod (siach) ar Deyrn y chwaraewr arall a'i ladd (siachmat). Mae'n gêm rhesymegol a tactegol dwfn iawn, cymaint felly fod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu China hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:
- 1 Teyrn (neu Brenin) (T)
- 1 Brenhines (B)
- 2 Castell(C)
- 2 Esgob (E)
- 2 Marchog (M)
- 8 Gwerinwr
Defnyddid y gair "gwyddbwyll" yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Mae'n debyg mai cyfeirio at gêm arall a tharddiad celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.