Damascus
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Damascus neu Dimashq (Arabeg دمشق), a elwir hefyd Esh Sham ar lafar yn Arabeg, yw prifddinas Syria.
Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Libanus.
Mae hi'n un o'r ddinasoedd hynaf yn y byd. O'r cychwyn cyntaf mae hi wedi bod yn enwog fel ddinas fasnachol. Roedd yn un o ddeg dinas y Decapolis yn nghyfnod y Rhufeiniaid. Yno y ceir y Stryd a elwir Syth. Ar ei ffordd i Ddamascus y cafodd sant Paul o Darsus ei droedigaeth.
Mae'r Fosg Fawr, a elwir weithiau Mosg yr Ummaiaid yn un o'r rhai pwysicaf yn y byd Arabaidd. Dywedir bod Sant Ioan Bedyddiwr wedi'i gladdu yno ac mae'n sanctaidd i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd.
Dan reolaeth Saladin roedd Damascus yn ganolfan weinyddol bwysig. Mae beddrod Saladin i'w gweld yn y ddinas heddiw.
Roedd hi dan reolaeth yr Ottomaniaid o 1516 hyd 1918. Cipiwyd y ddinas gan Ffrainc yn 1920. Daeth yn brifddinas y Syria annibynnol yn 1941.