Cwtiad Torchog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cwtiad Torchog | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Charadrius hiatucula Linnaeus, 1758 |
Mae'r Cwtiad Torchog (Charadrius hiatucula) yn aelod o deulu'r rhydyddion sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o ogledd Ewrop ac Asia a gogledd-ddwyrain Canada.
Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda throch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas y llygaid a chap brown, gyda gwyn ar y talcen. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r Cwtiad Torchog Bach, sy'n debyg iawn, trwy fod y Cwtiad Totchog ychydig yn fwy (17-19.5 cm o hyd a 35-41 cm ar draws yr adenydd) ac nad oes ganddo linell felen yn amgylchynu'r llygad na llinell wen ar y talcen rheng y du a'r brown.
Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog Bach, sydd fel rheol yn nythu ger dŵr croyw, mae'r Cwtiad Torchog yn nythu ar y traethau ran amlaf, er fod rhai yn nythu ymhell o'r môr. Mae'n nythu ar dir agored, ac os oes perygl yn agos, er enghraifft Llwynog mae'r oedolion weithiau yn cymeryd arnynt eu bod wedi torri adain i geisio ei ddenu ymhellach o'r nyth.
Mae'r adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf, rhai cyn belled ag Affrica ond mae'r adar sy'n nythu ymhellach i'r de yn sefydlog fel rheol. Yn y gaeaf maent yn bwwydo ar y traethau.