Cernyweg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Cernyweg (Cernyweg: Kernewek, Kernowek, Curnoack) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad yn ddiweddar ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.
Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r Rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Daeth Cernyweg i fod wedi i Frythoniaid de-orllewin Prydain gael eu gwahanu oddi wrth Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deohram, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 930, pan goncrwyd yr ardal gan Athelstan, y brenin Sacsonaidd, ac ef a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn marw allan yn gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad Saesneg! - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676.
[golygu] Adfywiad
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd perswadio pobl leol, a thrwy'r wlad, i ddysgu'r iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek - Cymdeithas yr Iaith Gernyweg i ymgyrchu dros yr iaith, drwy wthio am ddefnydd o'r iaith mewn sefyllfaoedd pob dydd. Wedi llwyddiant Kowethas erbyn 1985, parhaodd y ddau gorff i fod yn annibynnol ond i weithio yn agos gyda'i gilydd.
Mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg erbyn hyn.
Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio 'Kernewek Kemmyn', sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.
Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig), y ffurf a ddyfeiswyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.
Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.
Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ('Unified Cornish Revised'), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.
Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18fed ganrifoedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga (Cernyweg Modern) gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.
Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.
Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig.
[golygu] Esiamplau
Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn Kernewek Kemmyn ac UCR) gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg, a Saesneg.
Cernyweg (UCR) | Cernyweg (KK) | Cymraeg | Llydaweg | Saesneg |
---|---|---|---|---|
Kernowek | Kernewek | Cernyweg | Kerneveureg | Cornish |
gwenenen | gwenenenn | gwenynen | gwenanenn | bee |
chayr, cadar | kador | cadair | kador | chair |
cues | keus | caws | keuz | cheese |
yn mes | yn-mes | i maes | er-maez | out |
codha | koedha | cwympo | kouezhañ | (to) fall |
gavar | gaver | gafr | gavr | goat |
chy | chi | tŷ | ti | house |
gweus | gweus | gwefus | gweuz | lip |
aber | aber | aber, genau | aber | mouth (river) |
nyver | niver | rhif, nifer | niver | number |
peren | perenn | gellygen | perenn | pear |
scol | skol | ysgol | skol | school |
megy | megi | mygu | mogediñ | (to) smoke |
steren | sterenn | seren | steredenn | star |
hedhyw | hedhyw | heddiw | hiziv | today |
whybana | hwibana | chwibanu | c'hwibanat | (to) whistle |
Beth yw'r gair am....
Bore da - Myttin da
P'nawn da - Dohajydh da
Noswaith dda - Gorthewer da
Nos da - Nos da
Sut yda chi? - Fatla genes?
Iawn diolch - Yn poynt da, meur rasta
Diolch - Meur rasta
Os gwelwch yn dda - Marpleg
Iawn boi? - Hou sos?
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Cymdeithas yr iaith Gernyweg {yng Nghernyweg}.
- Bwrdd yr Iaith Gernyweg {yn Saesneg}
- Cyfieithiad o'r Beibl yng Nghernyweg
- [http://www.bbc.co.uk/cornwall/content/articles/2005/06/26/news_in_cornish_feature.shtml Newyddion yng Nghernyweg
Ieithoedd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |