Thomas Evan Nicholas (Niclas y Glais)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd, pregethwr a gwleidydd oedd Niclas y Glais (Thomas Evan Nicholas) (1878 - 1971). Fe'i ganwyd yn Llanfyrnach Sir Benfro.
Cafodd ei arestio a'i garcharu yn 1940 pan ddaeth yr heddlu ar draws swasikas bach papur coch yn ei gartref. Does dim dwywaith nad oedd Niclas yn rebel ac yn pregethu yn erbyn y drefn ond daeth yn glir pan rhyddhawyd dogfennau gan yr Archif Brydeinig yn Kew nad oedd dim sail i gyhuddiadau'r heddlu. Roedd yn amlwg fod y Prif Gwnstabl a oedd wedi gorchymun arestio Niclas yn gwbwl ragfarnllyd, pan ddaeth gerbron y Pwyllgor Apel. Roedd y baneri bach gyda'r swastikas wedi dod gyda map o'r rhyfel am ddim yn y papur dyddiol y Daily Telegraph
Treuliodd ei amser yn y carchar yn barddoni gan ysgrifennu'r cerddi ar bapur tŷ bach y carchar, ac mae'r gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol.