Rhif Atomig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yng Nghemeg a Ffiseg, y rhif atomig (Z) yw'r nifer o brotonnau a ddarganfyddir mewn niwclews atom. Mewn atom sydd â gwefr niwtral, bydd y nifer o electronnau o amglych y niwclews yn hafal i'r rhif atomig.
Yn wreiddiol, roedd y rhif yn dangos lle elfen yn a tabl cyfnodol yn unig. Pan drefnodd Dmitri Mendeleev yr elfennau cemegol hysbys i mewn i grwpiau yn ôl eu tebygrwydd cemegol, gwelir fod trefnu'r elfennau yn ôl eu màs atomig yn rhoi rhai anghymhariadau. Roedd Iodîn a Telleriwm, wrth eu rhestri yn ôl eu màs atomig, yn ymddangos i fod yn y drefn anghywir, ac byddent yn ffitio'n well petai eu safleoedd yn cael eu gwrthdroi. Wrth rhoi'r elfennau mewn trefniant a oedd yn ffitio eu priodweddau cemegol fwyaf agos, eu rhifau yn y tabl oedd eu rhifau atomig. Roedd y rhif yma bron ar gyfartaledd gyda màs yr atom ond hefyd yn adlewyrchu rhyw briodwedd arall ar wahân i fàs yr atomau.
Esboniwyd yr anomaliau yn y gyfres hwn yn 1913 gan Henry Gwyn Jeffreys Moseley. Darganfyddodd Moseley berthynas pendant rhwng spectra diffreithiant pelydrau X yr elfennau, a'u lleoliad cywir yn y tabl cyfnodol. Dangoswyd yn hwyrach fod y rhif atomig yn cyfateb i wefr trydanol y niwclews - hynny yw, y nifer o brotonnau. Y wefr sy'n rhoi i elfennau eu priodweddau cemegol, yn hytrach na'r mas atomig.
Mae gan rhif atomig elfen berthynas agos i'w rhif màs (er ni ddylid eu cymysgu) sef y nifer o brotonnau a niwtronnau mewn niwclews atom. Daw'r rhif màs yn aml ar ôl enw'r elfen e.e. Carbon-14 (a ddefnyddir mewn dyddio Carbon).