Hywel Teifi Edwards
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Beirniad llenyddol ac hanesydd diwylliannol yw Hywel Teifi Edwards (15 Hydref 1934 - ).
Cafodd ei fagu yn Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu yn athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu a'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion, Coleg Prifysgol Abertawe yn diwtor llenyddiaeth Cymraeg. Daeth yn bennaeth ac Athro ar yr Adran Gymraeg yn y coleg cyn ymddeol.
Mae wedi arbenigo ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn arbennig ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a dros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Y mae yn dad i'r newyddiadurwr Huw Edwards.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Yr Eisteddfod 1176-1976 (1976)
- Gŵyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858-1868 (1980)