Dwrgi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dwrgwn | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dwrgi |
||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||
|
||||||||||||
Genera | ||||||||||||
Amblonyx |
Mae dwrgwn neu ddyfrgwn yn anifail cigysol â chanddo gôt o flew llwydfrown tywyll, traed gweog i'w alluogi i nofio, a chynffon lydan i'w lywio, sy'n byw mewn dŵr ffres neu mewn dŵr hallt. Maen' nhw'n bwyta pysgod yn bennaf.
[golygu] Y Dwrgi yn y Cyfreithiau Cymreig
Yn ôl y Gyfraith Gymreig (Cyfraith Hywel Dda) yn yr Oesoedd Canol roedd y dwrgi yn un o dri anifail yr oedd gan bawb yr hawl i'w hela. "Tri hela ryd yssyd y bop dyn ar tir dyn arall: hela iwrch, a chatno, a dyfyrgi" (Llyfr Blegywryd, t.119, ll.7); "Tryded hele ryd, heyt wenyn ar wrysgen a llvynauc a dyuyrgy, canyt oes adlam udunt vrth ev bot ar kerdet en wastat" (Llyfr Iorwerth, adran 135). Roedd ei groen yn werth wyth geiniog, wyth gwaith mwy na chroen dafad (ibid., adran 137).
[golygu] Ffynonellau a Darllen Pellach
Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960). ISBN 0708301142
Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Caerdydd, ail arg., 1961).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.