Astwrieg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Iaith frodorol cymuned ymreolaethol Tywysogaeth Astwrias yw Astwrieg (neu Astwreg). Er bod dadlau ai iaith ynteu dafodiaith ydyw, mae'r Astwrieg neu 'asturianu' neu 'bable' bellach yn cael ei chydnabod yn swyddogol a'i hamddiffyn i ryw raddau gan Lywodraeth y Dywysogaeth. Iaith Romáwns ydyw, sy'n perthyn yn agos i Sbaeneg a Galisieg. Yn ôl ystadegau diweddar, mae hyd at 300,000 yn ei siarad er bod llawer o bobl yn siarad cymysglyd o Sbaeneg ac Astwrieg. Ni chynigir addysg trwy gyfrwng yr iaith er bod ysgolion cynradd bellach yn ei dysgu a gellir ei hastudio fel rhan o'r bachillerato. Ceid rhaglen newyddion yn yr iaith ar un adeg ond fe'i clywir ar y radio'n weddol aml o hyd. Mae rhai o sianeli lleol Astwrias, megis Tele Gijón, yn dangos ambell raglen yn yr iaith hefyd. Mae cyfnod o normaleiddio ieithyddol yn dechrau dod i rym mewn rhai lleoedd, gwelir rhai arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog ac mae Cyngor Dinas Gijón, er enghraifft, wedi sefydlu swyddfa arbennig i hyrwyddo a datblygu defnydd o'r iaith mewn sawl maes. Fodd bynnag, oherwydd statws isel yr iaith, yn enwedig yn y gorffennol, mae nifer o siaradwyr yn gyndyn i gydnabod ei bod yn ei siarad.
[golygu] Rhai ymadroddion defnyddiol
- Dydd Da - Bon dia
- Noswaith dda - Bones nueches
- ... ydw i - Llamo-me ...
- Ble mae...? - Onde tá...?
- Hwyl - Ta llueu
[golygu] Cysylltiad allanol
Astwrieg, Mercator Cyfryngau