Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i'w sefydlu yng Nghaerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Fe'i lleolir yn Ystum Taf, Caerdydd. Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (90 ohonynt) ym Medi 1979. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoiliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apél ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas.
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith. Ymysg ei chyndisgyblion mae amryw o gyflwynwyr teledu a chantorion pop Cymraeg, Eluned Morgan ASE, Ffion Jenkins (gwraig William Hague, cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol), a'r chwaraewr rygbi Jamie Robinson.