Y Carneddau
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mynyddoedd yn Eryri, Cymru yw'r Carneddau. Maent yn cynnwys y darn mwyaf o dir uchel yng Nghymru (dros 2,500 o droedfeddi neu dros 3,000 o droedfeddi), a saith o'r 14 copa uchaf yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnwys nifer o lynoedd, megis Llyn Cowlyd a Llyn Eigiau. Ffiniau'r Carneddau yw yr arfordir yn y gogledd, Dyffryn Conwy i'r dwyrain a ffordd yr A5 o Betws-y-Coed i Fethesda i'r de a'r gorllewin.
Mae'r Carneddau yn cynnwys y mynyddoedd isod:
- Pen yr Ole Wen (978 m)
- Carnedd Ddafydd (1044 m)
- Carnedd Llewelyn (1064 m)
- Yr Elen (neu Yr Elan) (962 m)
- Foel Grach (neu Moel Grach) (976 m)
- Garnedd Uchaf (924 m)
- Foel-fras (neu Moel Fras) (942 m)
- Moel Wnion (580 m)
- Y Drum (770 m)
- Yr Aryg
- Y Drosgl
- Tal-y-fan (610 m)
- Pen yr Helgi Du (833 m)
- Pen Llithrig y Wrach (neu Pen-llithrig-y-wrach) (799 m)
- Creigiau Gleision (678 m)
[golygu] Darllen Pellach
- Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybïe, 1965)