Vancouver
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas yng Nghanada yw Vancouver.
Vancouver yw dinas fwyaf talaith British Columbia ar arfordir gorllewinol Canada. Sefydlwyd gwladfa fach o'r enw "Gastown" ar y safle ym 1862 a datblygodd yn dre fach o'r enw "Granville". Ailenwyd y dre fel "Vancouver" ym 1886 ar ôl y fforiwr George Vancouver (1757-1798).
Erbyn heddiw mae hanner miliwn o bobl yn byw yn y ddinas gyda dros 2 miliwn yn ardal dinesig Vancouver Fawr. Mae mynyddoedd y Rockies yn gorchuddio rhan fwyaf British Columbia, ac ardal dinas Vancouver yn cynnwys bron hanner poblogaeth y dalaith.
Bydd Vancouver, ynghyd â thref Whistler, yn cynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2010.