Terry Griffiths
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Terry Griffiths (ganwyd 16 Hydref, 1947) yn chwaraewr snwcer.
Cafodd ei eni yn Llanelli.Cyn troi yn chwaraewr snwcer proffesiynol 1978 roedd yn bostman yn y dre ac o fewn blwyddyn 1979 yr oedd wedi ennill pencampwriaeth y byd. Curodd Eddie Charlton yn y rownd gyn-derfynnol a dennis Taylor yn y rownd derfynnol. O ganlyniad ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a oedd wedi dechrau'r bencampwriaeth yn y rowndiau arbrofol.
Mae yn rhedeg ei glwb snwcer ei hun yn Llanelli a Chaerfyrddin ac wedi hyfforddi Mark Williams, Stephen Hendry a Matthew Stevens
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.