Taleithiau a thiriogaethau Canada
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Canada yn ffederasiwn o ddeg talaith sydd, ynghyd â thair tiriogaeth, yn ffurfio ail wlad fwya'r byd o ran arwynebedd. Y prif wahaniaeth rhwng talaith a thiriogaeth yng Nghanada yw bod pwerau talaith yn deillio'n uniongyrchol o'r Ddeddf Cyfansoddiad, 1867, gan roi iddynt mwy o hawliau nag sydd gan tiriogaeth, lle ceir pwerau wedi'u dirprwyo gan y llywodraeth ffederal.
Canada Uchaf, Canada Isaf, New Brunswick, a Nova Scotia oedd pedair talaith cyntaf Canada pan ddechreuodd gwladfeydd Brydeinig Gogledd America ffedereiddio ar 1 Gorffennaf, 1867. Ail-enwyd Canada Uchaf yn Ontario a Chanada Isaf yn Quebec. Dros y chwe mlynedd dilynol, ymunodd Manitoba, British Columbia, ac Ynys y Tywysog Edward fel taleithiau.
Roedd Cwmni Hudson's Bay yn rheoli rhannau sylweddol o orllewin Canada hyd at 1870, cyn i'r tir ddod i feddiant Llywodraeth Canada, gan ffurfio rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar 1 Medi, 1905, ffurfiwyd Alberta a Saskatchewan o'r rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin a orweddai i'r de o'r paralel 60°.
Mewn refferendwm yn 1948, gyda mwyafrif bach, pleidleisiodd trigolion Y Tir Newydd a Labrador o blaid y conffederasiwn. O ganlyniad, ar 13 Mawrth, 1949, ymunodd Y Tir Newydd a Labrador fel ddegfed talaith Canada.
Taleithiau a thiriogaethau Canada | |
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec | |
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador | |
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon |