Sahara
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y Sahara yw'r anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hunan a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sydd yn ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de fe wna'r coed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol amlhau.
Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân.
Mae tymheredd dros 45 gradd yn gyffredin, ac fe recordiwyd tymheredd o 58 gradd yn y cysgod yn Aziza yn Libia, ond yn y nos gan nad oes cymylau i gadw'r gwres i lawr, mae'n gallu bod yn ddychrynllyd o oer.
Ond ar waethaf yr hinsawdd creulon mae rhai anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i fyw yno.
Ffynnai sawl tref a dinas i'r de ac i'r gogledd o'r Sahara, fel Tombouctou ym Mali, ar y fasnach draws-Saharaidd sydd â'i gwreiddiau yn y cyfnod cyn-hanesyddol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Cyfnod y Gwartheg
Erbyn 6000 CC roedd yr Eifftwyr cynhanesyddol yn ne-orllewin yr Aifft yn bugeilio gwartheg ac yn codi adeiladau mawr. Roedd bywyd mewn trefi a phreswylfeydd yn yr Aifft gyn-deyrnasyddol erbyn canol y chweched fileniwm yn seiledig yn bennaf ar dyfu cnydau grawnfwyd a magu anifeiliaid domestig fel gwartheg, geifr, moch a defaid. Cymerodd gwrthyrchau metal le rhai carreg; roedd trin lledr, gwneud crochenwaith a gweu yn dod yn gyffredin hefyd.
Un o'r canolfannu pwysicaf oedd gwerddon Al Fayyum lle ceir tystiolaeth o weithgareddau tymhorol megis pysgota, hela a hel bwyd gwyllt. Roedd saethau carreg, cyllyll obidian a chrafwyr ar gyfer croen anifeiliaid yn gyffredin. Mae beddau o'r cyfnod yn cynnwys crochenwaith, gemwaith, ac offer hela a ffermio; claddwyd y meirw yn wynebu'r gorllewin (lleolir Arallfyd neu Baradwys yr Eifftwyr diweddarach yn y gorllewin hefyd).
Yng nghanol y Sahara ei hun mae tystiolaeth lluniau cynhanesyddol ar furiau ogofau a chysgodfeydd yn y graig yn dangos fod poblogaeth bur sylweddol yn byw bywyd hela a chodi gwartheg yno a bod yr hinsawdd a'r tyfiant yn debyg i'r hyn a geir yn y Sahel heddiw. Ceir rhai o'r safleoedd mwyaf trawiadol ym mynyddoedd yr Hoggar a'r Tassili n'Ajjer; mmae lluniau o'r ardal olaf yn dangos afonfeirch (hippopotamus) a phreiddieu anferth o wartheg cyrn hir, a hynny mewn ardal sydd bellach yn anialdir llwyr.
[golygu] Cyfnod y Berberiaid
Erbyn tua 2500 CC roedd y Sahara wedi troi bron mor sych ag y mae heddiw ac o hynny allan bu'n rhwystr sylweddol i deithwyr. Dim ond llond llaw o breswylfeydd parhaol oedd yna, yn y gwerddonau, a chyfyngid ar y fasnach draws-Saharaidd. Roedd dyffryn Nîl yn eithriad, ond fan 'na hefyd roedd y rhaeadrau mawr ar Afon Nîl yn rhwystr ar y llwybr i'r de i gyfeiriad y Sudan.
[golygu] Phoeniciaid a Groegiaid
Creodd y Phoeniciaid a ymsefydlodd ar arfordir gogledd Affrica, yn Carthage er enghraifft, gynghrair o deyrnasoedd reit ar draws y Sahara, o'r gorllewin i gyffiniau'r Aifft.
Rhywbryd rhwng 633 CC a 530 CC hwyliodd Hanno ar ei fordaith enwog ar hyd yr arfordir i gyffiniau Culfor Guines, ac ymddengys ei fod wedi atgyfnerthu trefedigaethau Carthaginaidd yn y Sahara Gorllewinol, ond ni cheir tystiolaeth bendant o hynny heddiw. Ymddengys fod peryglon y fordaith ac ansicrwydd y farchnad yng ngorllewin Affrica wedi cyfyngu ar weithgareddau'r Carthaginiaid ar ôl y mordeithiau menter cyntaf a'u bod wedi bodloni ar ychydig o bostiau masnach ar arfordir Iwerydd Morocco.
Erbyn hanner olaf y fileniwm gyntaf cyn Crist felly roedd cadwyn o wladwriaethau canoliedig a'u trefedigaethau yn ymestyn o orllewin y Maghreb i lannau'r Môr Coch, ond prin eu bod yn cyffwrdd yn uniongyrchol â'r Sahara ei hun. Roedd cyrchoedd sydyn gan bobloedd nomadaidd Berber yr anialwch yn boenu'r gwladwriaethau hyn yn gyson. Ond yn nwylo'r Berber oedd allweddau'r Sahara a bu rhaid ceisio dod i gytundeb â nhw.
[golygu] Y Garamantes
Tua'r adeg honno cododd gwareiddiad ddinesig y Garamantes yn y Sahara ei hun, yn y dyffryn a elwir heddiwe yn Wadi al-Ajal yn y Fazzan, yn Libya. Tyllodd y Garamantes dwnelau ymhell i mewn i'r mynyddoedd o gwmpas eu dyffryn i gael dŵr. Tyfodd eu poblogaeth yn gyflym. Cwncweriasant eu cymdogion a'u defnyddio yn gaethweision i weithio'r twneli hollbwysig. Roeddent yn adnabyddus i'r Rhufeinwyr a'r Groegiaid a oedd yn meddwl eu bod yn farbariaid a nomadiaid. Serch hynny roeddynt yn masnachu â nhw; cafwyd baddon Rhufeinig yn Garama, prifddinas y Garamantes, er enghraifft. Mae Garama yn un o wyth dref sylweddol sydd wedi dod i'r golwg hyd yn hyn diolch i'r archaeolegwyr. Bu i wareiddiad y Garamantes fethu yn y diwedd pan redodd y cyflenwad dŵr allan.
[golygu] Yr Arabiaid
Ar ôl i'r Arabiaid gyrraedd gogledd Affrica ffynnodd y fasnach draws-Saharaidd unwaith yn rhagor. I'r de o'r anialwch tyfodd teyrnasoedd mawr yn y Sahel yn gyfoeth wrth allforio aur a halen dros y Sahara, yn enwedig Ymerodraeth Ghana ac yn ddiwedddarach Ymerodraeth Mali. Mewn cyfnewid anfonwyd ceffylau a nwyddau gwneud gan deyrnasoedd Arabaidd arfordir y gogledd. O'r Sahara ei hun allforid halen. Ffynnai'r gwerddonau a daethant dan reolaeth y teyrnasoedd newydd yn y gogledd.
[golygu] Y cyfnod diweddar
Newidiodd y sefyllfa gyda thyfiant grym morwrol Ewrop. Roedd llongau newydd fel y carafel Portiwgalaidd yn medru hwylio'n gyflym i orllewin Affrica a chollodd y llwybrau traws-Sahraidd allan.
Ni chymerodd y grymau trefedigaethol lawer o ddiddordeb yn y Sahara ei hun, gan fodloni ar reoli ei hymylon, ond yn ddiweddar mae nifer o gymunedau wedi tyfu yno i gael petrol a mwynau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys petroliwm a nwy naturiol yn Algeria a Libya a gwelyau mawr o phosphate ym Morocco a Gorllewin Sahara.