Pobol y Cwm
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm.
Wedi'i lleoli ym mhentref Cwmderi, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol yng Nghymru.
Fe ddechreuodd y gyfres ar 8 Hydref 1974; felly, dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain.
Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg.
Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm o nos Lun i nos Wener am 8:00 pm, ond maent yn ail-ddarlledu holl benodau'r wythnos ag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 5:35yh.