Nice
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
||||
Arwyddair y ddinas : "Nicæa civitas" (Lladin: "Nice y ddinas") ¹ |
||||
Llysenwau : "Nissa la bella" (Niçois: "Nice y brydferth") "La reigne de la Côte-d'Azur" (Ffrangeg: "Brenhines y Côte-d'Azur") "Queen of the Riviera" (Saesneg: "Brenhines y Riviera") |
||||
Adran | Alpes-Maritimes | |||
Rhanbarth | Provence-Alpes-Côte d'Azur (PACA) | |||
Iaith swyddogol | Ffrangeg | |||
Ieithoedd eraill | Eidaleg, Arabeg | |||
Hen iaith | Niçois | |||
Maer | Jacques Peyrat (ers 1995) |
|||
Poblogaeth |
dinas: 347,100 (1999) ardal: 933,080 |
|||
Ymuned gyda Ffrainc | 12 Medi,1860 | |||
Hinsawdd | Canoldir | |||
Côd post | 06000,06100,06200,06300 | |||
Côd Ffonio | +33 493 | |||
(1) Nodiad: 1 Arwyddair gwreiddiol y ddinas oedd "Nicæa civitas fidelissima", "Nice, y ddinas ffyddlon iawn" (hynny yw; i dŷ Savoy). Byrhawyd yr arwyddair yn 1860 pan ymunodd Nice gyda Ffrainc. |
Nice (Nissa neu Niça yn Niçois, Nizza yn Eidaleg) yw pumed ddinas Ffrainc. Mae hi wedi lleoli yn neau-ddwyrain Ffrainc wrth y Môr Canoldir ar y "Baie des Anges" (Bae yr Angylion).
- Nice yw prifddinas adran yr Alpes-Maritimes a phrif ddinas y Côte-d'Azur.
- Gelwir Nice yn "Frenhines y Riviera".
- Daeth enw Nice o'r hen enw Groeg Νικαία Nikaia.
- Roedd Nice yn dalaith annibynnol i Ffrainc cyn iddo ymuno yn 1860. Mae llawer yn credu bod Nice yn arfer perthyn i'r Eidal ond dydy hyn ddim yn gywir. Roedd hi'n arfer perthyn i deyrnas Sardinia. Pan ymunodd Sardinia a'r Eidal fe ymunodd Nice a Ffrainc.
[golygu] Hinsawdd Nice
Mae Nice ar lan y Môr Canoldir ac mae'r Alpau sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y tywydd oer. Mae manylion hinsawdd Nice yn yr erthygl "Hinsawdd y Riviera".
[golygu] Ffeithiau diddorol
- Mae'r "Promenade des Anglais" (Promenâd y Saeson, "Camin dei Engles" yn Niçois) rhyw bum milltir o hyd. Gafodd ei adeiladu gan y Saeson yn 1820 er mwyn gallu mynd am dro ar lan y môr.
- Pob canol dydd fe fydd magnel yn saethu ergyd o fryn y castell. Fe ddechreuwyd y ddefod hon gan Sais o'r enw Thomas Coventry oedd yn mynnu bwyta ei ginio am ddeuddeg o'r gloch.
- Maes-glanio Nice yw maes-glanio mwyaf Ffrainc tu allan i Baris.
- Canolfan siopa "Cap 3000" (cynaniad - cap trwâ mîl) gerllaw yn St. Laurent-du-Var yw'r canolfan siopa fwyaf ar y Côte-d'Azur a chanolfan siopa gyntaf Ffrainc.
- Mae mwy o oleuadau traffig yn Nice nag unrhyw ddinas arall yn Ffrainc. Y cyntaf oedd ar y groesffordd rhwng "Avenue Jean Médecin" a "Boulevard Victor Hugo" yn nghanol y ddinas.
- Mae trên bach; "Chemins de fer de Provence" yn mynd o Nice i Digne-les-Bains. Mae hwn yn daith ddiddorol sy'n mynd drwy mynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein, "Le train des pignes" (trên y pîn) sy'n llosgu pîn yn lle glo.
- Mae yna drên diddorol arall; "Train des merveilles" (trên y rhyfeddodau) yn mynd drwy mynyddoedd y cefnwlad o Nice i Tende ac ymlaen i Cuneo yn yr Eidal. Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnel sy'n troi fel allwedd costrel tu mewn y mynydd.