Hywel ab Edwin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Hywel ab Edwin (bu farw 1044) yn frenin Deheubarth o 1033.
Roedd Hywel yn fab i Edwin ab Einion o linach Hywel Dda. Pan fu Rhydderch ap Iestyn, oedd wedi cipio teyrnas Deheubarth, farw yn 1033 daeth Hywel yn frenin Deheubarth, yn ei rhannu gyda'i frawd Maredudd.
Yn 1035 bu farw Maredudd, gan adael Hywel i deyrnasu er ei ben ei hun. Daeth dan bwysau oherwydd ymosodiadau y Fikingiaid a Gruffydd ap Llywelyn oedd wedi ei wneud ei hun yn frenin Gwynedd. Yn 1042 neu 1043 gyrrwyd ef allan o'i deyrnas gan Gruffydd, ond dychwelodd yn 1044 gyda byddin yn cynnwys Daniaid. Gorchfygodd Gruffydd hwy mewn brwydr ger aber Afon Tywi a lladdwyd Hywel.