Hizballah
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mudiad Islamaidd Shia yn Libanus yw Hizballah[1] (Arabeg: حزب الله, ḥizbu-llāh; "plaid Duw"). Pan sefydlwyd Hizballah ar ddechrau'r 1980au, ei hamcanion oedd gyrru Israel allan o dde Libanus a chreu gwladwriaeth Islamaidd (seiliedig ar Iran).[2] Erbyn heddiw mae Hizballah wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion i droi Libanus yn wlad holl-Islamaidd, ond mae'n dal i alw am ddinistr Israel.
Ers 1992, Sheikh Sayyed Hassan Nasrallah yw arweinydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y mudiad.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.
[golygu] Ffynonellau a throednodion
- ↑ Trawslythreniadau eraill: Hezbollah, Hizbullah, Hizbollah, Hezballah, Hisbollah, ac Hizb Allah. (Defnyddir y BBC y fersiwn Hizballah yn yr erthygl yma, a'r fersiwn Hezbollah yn ei erthyglau newyddion.)
- ↑ BBC Cymru'r Byd — Crefydd – Hizballah