Gwennol y Bondo
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwennol y Bondo | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Delichon urbica Linnaeus, 1758 |
Mae Gwennol y Bondo (Delichon urbica), sy'n aelod o'r teulu Hirundinidae, y gwenoliaid, yn gyffredin trwy ran helaeth o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf yn treulio'r gaeaf yn Affrica.
Mae'n aderyn eithaf tebyf i'r Wennol o ran lliw, ond yn hawdd ei adnabod oherwydd y darn mawr gwyn uwchben y gynffon. Mae'r gynffon yn fyrrach na chynffon y Wennol. Fel rheol gwelir yr adar cyntaf yn Ewrop tua dechrau ebrill, er ei bod yn ddiwedd Ebrill cyn i'r rhan fwyaf gyrraedd. Fel rheol mae'n adeiladu'r nyth, sydd wedi ei wneud o fwd, ar dai, o dan y bondo, ac mae nifer o barau yn nythu gyda'i gilydd. Mae'n debyg mai ar glogwyni yr oedd Gwennol y Bondo yn nythu'n wreiddiol, ac mae ambell un yn parhau i wneud hynny.
Mae'r rhan fwyaf o'r adar wedi gadael Ewrop erbyn diwedd mis Hydref, er bod ambell un yn cael ei weld yn ystod Tachwedd neu hyd yn oed Rhagfyr.