Gleision Caerdydd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gleision Caerdydd |
|
---|---|
Lliwiau'r Tim |
|
Cartref |
Fwrdd |
Rhanbarthau Rygbi Cymru 2004 |
|
Mae Gleision Caerdydd yn rhanbarth rygbi'r undeb yng Nghymru, ac yn chwarae yn y Gynghrair Celtaidd, y Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig.
[golygu] Hanes y Rhanbarth
Mae Gleision Caerdydd yn un o'r pump rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Hefyd roeddent yn un mas o ddau rhanbarth nad oedd rhaid iddynt gyfuno gyda clwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Ngymru ym myd rygbi'r undeb
Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau. Gleision Caerdydd oedd y rhanbarth gyntaf i penderfynu ar enw. Fe lansiwyd yr rhanbarth ar y 6ed Mehefin 2003 yn ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Fe gorffenodd y Gleision yn 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd yn ei tymor cyntaf, yr rhanbarth gwaethaf o Gymru.
Yn gyntaf yr oedd yr Gleision dim ond yn cynrycholi dinas Caerdydd a Bro Morgannwg. Gyda'r rhanbarth Rhyfelwyr Celtaidd yn cau yn 2004 ar ôl un tymor roedd y Gleision cynrycholi fwy o Morgannwg ac hefyd rhan o Powys. Ar dilyn tymor wael cyrhaeddodd yr rhanbarth 9ed safle o flaen i Connacht a Y Gororau.
Ar dechrau trydydd tymor y Gleision, nid oedd pethau wedi ymddangos i gwella gyda'r tîm yn methu cyraedd ail-rownd Cwpan Heineken. Yn ystod y tymor ymynodd Jonah Lomu gyda'r Gleision ac er nad oedd mor gyflym na gryf pryd chwaraeodd yn Cwpan y Byd, deg flwyddyn cyn, fe daeth llawer o cefnogwyr i'w weld. Yn ystod ail-hanner y tymor dechreuodd yr rhanbarth cael canlyniadau da yn yr Cynghrair Celtaidd ac fe gorfennodd nhw fel yr rhanbarth cryfaf o Gymru yn y 4ydd safle.
[golygu] Cartref
Mae Gleision Caerdydd yn chwarae ar Barc yr Arfau yn Ngaerdydd drws nesaf i'r Stadiwm y Mileniwm. Mae'r mynedfa i Barc yr Arfau ar Stryd Westgate.
[golygu] External links
- Cardiff Blues Safle Swyddogol Glesision Caerdydd