Emily Davison
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Suffragette oedd Emily Wilding Davison (11 Hydref 1872 - 8 Mehefin 1913) a fu farw yn 1913 pan daflodd ei hunan o dan "Anmer", geffyl y brenin, yn ystod ras fawr y Derby yn Epsom fel rhan o'r ymgyrch dros ennnill y bleidlais i ferched.
Wedi'i geni yn Blackheath, Llundain, roedd Davison eisoes wedi cael ei charcharu dros yr achos, wedi ymprydio ac wedi cael ei gorfodi i fwyta pan benderfynodd gyflawni ei gweithred fawr. Fel na fyddai neb yn camddeall ei rhesymau, fe gariodd gyda hi faner yn lliwiau suffragettes: gwyrdd a phorffor.
Denodd ei angladd filoedd o'i chefnogwyr. Bu'n fyfyrwraig ar un adeg yng Ngholeg Sant Hugh, Rhydychen, ac mae ei marwolaeth wedi'i chofnodi'n syml iawn yng nghofrestr y coleg â'r geiriau "Died at Epsom" heb ddim esboniad pellach. Mae cofeb gudd i Emily Davison wedi'i chuddio o dan Dŷ'r Cyffredin gan y gwleidydd Tony Benn.[1]
Darluniau: