Dafydd ap Llywelyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dafydd ap Llywelyn (c. 1208–Chwefror 25, 1246), Tywysog Gwynedd rhwng from 1240 a 1246.
Dafydd oedd unig fab cyfreithlon Llywelyn Fawr gan ei wraig Siwan, merch y Brenin Siôn o Loegr. Yn ei flynyddoedd olaf aeth Llywelyn i lawer o drafferth i gael cyfnabod Dafydd fel olynydd. Yn ôl cyfraith Cymru, buasai'r deyrnas yn cael ei rhannu rhwng Dafydd a'i frawd hyn ond anghyfreithlon Gruffydd. Llwyddodd Llywelyn i gael ewythr Dafydd, y Brenin Harri III o Loegr, i'w gydnabod fel Tywysog Cymru yn 1220 (y cyntaf i gael y teitl yma'n swyddogol), a pherswadiodd y Pab i gyhoeddi mam Dafydd, Siwan, yn gyfreithlon i gryfhau sefyllfa Dafydd.
Ar farwolaeth Llywelyn yn 1240 daeth Dafydd yn dywysog Gwynedd. Er fod Harri'r Trydydd wedi derbyn ei hawl i deyrnasu ar Wynedd, nid oedd yn barod i adael iddo gadw'r tiroedd yr oedd ei dad wedi eu goresgyn tu allan i Wynedd. Yn 1241 ymosododd y brenin ar Wynedd, a gorfodwyd Dafydd i ildio iddo. Collodd ei diroedd tu allan i Wynedd a bu raid iddo drosglwyddo ei frawd Gruffydd i'r brenin. Yr oedd Dafydd wedi bod yn cadw Gruffydd yn garcharor, ac yn llaw y brenin gallai fod yn arf defnyddiol yn erbyn Dafydd. Difethwyd unrhyw gynlluniau oedd gan y brenin pan fu farw Gruffydd wrth geisio dianc o Dwr Llundain yn gynnar yn 1244.
Yr oedd hyn yn rhyddhau dwylo Dafydd, a gwnaeth gynghrair gyda thywysogion eraill Cymru i ymosod ar feddiannau Seisnig yng Nghymru. Cafodd y gwrthryfel gryn lwyddiant, ac yn 1245 ymosododd y Brenin Harri ar Wynedd eto, ac adeiladodd gastell newydd yn Neganwy. Bu ymladd ffyrnig, ond diweddwyd yr ymgyrch gan farwolaeth annisgwyl Dafydd yn ei lys yn Abergwyngregyn yn Chwefror 1246. Fe'i claddwyd gyda'i dad yn abaty Aberconwy.
Gan nad oedd priodas Dafydd ag Isabella, merch William de Braose wedi cynhyrchu aer, rhannodd dau fab Gruffydd, Llywelyn ap Gruffydd ac Owain ap Gruffydd, y deyrnas rhyngddynt, a pharhau'r rhyfel gyda'r brenin trwy gydol 1246. Yn Ebrill 1247 cyfarfu Llywelyn ac Owain a'r brenin yn Woodstock a daethant i gytundeb ag ef, ar gost colli llawer o'u tiroedd.