Cyrene
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas o'r cyfnod clasurol yn hen dalaith Cyrenaica, ger arfordir Gwlff Sirta (Sirtes) yn Libia.
Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y brenin Battus yn 630CC. Mae'r enw, fel enw'r dalaith, yn dod o'r dduwies Cyrene fam Aristæus, ei mab gan Apollo. Roedd yn ddinas enwog yn yr Hen Fyd, wedi'i lleoli yn nghanol gwastadedd atyniadol tua 11 milltir o'r Môr Canoldir. Cyrene oedd prifddinas y Pentapolis ("Y Pump Dinas"), ardal bwysicaf y dalaith. Cafodd nifer o wŷr enwog eu geni yno, yn eu plith y bardd ac ysgolhaig Callimachus (m. c.240CC), y polymath Eratosthenes (275CC-195CC), Anniceris, Carneades ac Aristippus. Daeth dan reolaeth y Rhufeiniaid yn 97CC.
[golygu] Ffynonellau
- J. Lempriere, A Classical Dictionary (London, d.d.)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).