Cynan ap Hywel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cynan ap Hywel (teyrnasodd 999 - 1005), Brenin Gwynedd ac efallai Deheubarth.
Ar ôl marwolaeth Maredydd ab Owain, oedd wedi cipio gorsedd Gwynedd oddi ar linach Idwal Foel, yn 999, dychwelwyd Gwynedd i ddwylo disgynyddion Idwal yn ffurf ei or-wyr Cynan ap Hywel. Teyrnasodd Cynan hyd 1005 ond ychydig iawn a gofnodir amdano. Mae'n ymddangos iddo hefyd lwyddo i gipio teyrnas Deheubarth. Nid oes gwybodaeth am y modd y collodd ei orsedd i Aeddan ap Blegywryd, nad oedd o linach Idwal Foel i bob golwg.
[golygu] Cyfeiriadau
John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)