Crëyr Bach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Crëyr Bach | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Egretta garzetta Linnaeus, 1766 |
Mae'r Crëyr Bach (Egretta garzetta) yn aelod cymharol fychan o deulu'r creyrod.
Mae'n aderyn llawr llai na'r Crëyr Glas, tua 55-65 cm o hyd a 88-106 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu i gyd yn wyn. Gellir ei wahaniaethu oddi wrth greyrod gwyn eraill trwy fod ganddo goesau du a thraed melyn, a pig du. Yn y tymor nythu mae dwy bluen hir yn tyfu ar y gwegil ac mae'r croen rhwng y pig a'r llygaid yn troi'n goch.
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd mewn rhannau gweddol gynnes o Ewrop, Asia, Affrica ac Awstralia. Nid yw'n aderyn mudol yn y gwledydd cynhesaf, ond lle mae'r gaeafau'n oer mae'n symud tua'r de a'r gorllewin. Gallant hefyd symud tua'r gogledd yn niwedd yr haf ar ôl nythu.
Ar un adeg yr oedd y Crëyr Bach mewn cryn berygl oherwydd ei fod yn cael ei hela er mwyn defnyddio'r plu hir mewn hetiau merched. Erbyn hyn mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol iawn ac mae ei ddosbarthiad wedi lledaenu. Mae wedi dechrau nythu ar Ynysoedd Prydain a hefyd yr ochr draw i Fôr Iwerydd yn y Bahamas ac efallai ar nifer o ynysoedd India'r Gorllewin.
Fel rheol mae'r Crëyr Bach yn nythu gyda'i gilydd mewn coed, yn aml gyda creyrod eraill. Pysgod bychain ac ymlusgiaid yw ei fwyd yn bennaf, ac mae'n eu dal trwy gerdded yn llechwraidd ger y dŵr a'u trywanu â'i big.
Tua deng mlynedd yn ôl ystyrid y Crëyr Bach yn aderyn prin yng Nghymru, ond erbyn hyn gellir gweld niferoedd sylweddol ohono, yn enwedig ddiwedd yr haf. Weithiau gellir gweld dros 200 o adar yng ngwarchodfa Penclacwydd ger Llanelli ac yn y gogledd dros gant yn Aber Ogwen ger Bangor. Mae ychydig barau wedi dechrau nythu yng Nghymru.