Castell y Dryslwyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell yn Sir Gaerfyrddin yw Castell y Dryslwyn. Saif ar fryn yn Nyffryn Tywi. Adeiladwyd y castell cyntaf gan Rhys Grug, un o feibion yr Arglwydd Rhys yn y 1220au. Fe'i hetifeddwyd gan ei fab Maredudd ap Rhys a'i fab yntau Rhys ap Maredudd. Gwarchaewyd y castell gan luoedd Seisnig yn 1287, gan gwympo ar 5 Medi. O dan reolaeth Seisnig estynwyd y dref fechan oedd wedi datblygu ar lethrau'r bryn. Dymchwelwyd y castell yn gynnar yn y 15fed ganrif. Erys yr adfeilion a welir ar y safle heddiw.