Castell Gwydir
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hen blasdy yn Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, cartref hanesyddol Wynniaid Gwydir.
Cysylltir Castell Gwydir yn bennaf â Syr John Wynn (1553-1627), awdur History of the Gwydir Family. Mae'r adeilad hardd yn dyddio o ail hanner y 16eg ganrif. Fe'i adeiladwyd gan John Wyn ap Maredudd, taid Syr John.
Am flynyddoedd bu'n enwog am y peunod lliwgar a rodiai yn y gerddi ac ar hyd ben y muriau. Gwerthwyd y stad gan y teulu yn y 1890au. Mae'n gartref preifat heddiw ond yn agored i'r cyhoedd ar adegau.