Castell Cydweli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Saif Castell Cydweli wrth aber Afon Gwendraeth Fach yn Sir Gaerfyrddin. Codwyd y castell gan yr arglwydd Normanaidd, William de Londres, tua'r flwyddyn 1100, i reoli Cwmwd Cydweli yn y Cantref Bychan.
Yn ymyl y castell yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, a Maurice de Londres. Lladdwyd y dywysoges yn y frwydr.
Cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell ar ddechrau'r 1190au.
Yn 1231 fe'i cipiwyd gan Llywelyn Fawr yn ystod ei ymgyrch mawr yn y de.
Ar 23 Mai 1991 dadorchuddiwyd gofeb er cof am Gwenllian yn y castell. Codwyd yr arian at hyn gan Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.