Caryl Parry Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caryl Parry Jones (ganwyd 1958) yn gantores poblogaidd yng Nghymru. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, actores, cyflwynwraig teledu a hyfforddwraig llais.
Fe'i magwyd yn Ffynnongroew, rhwng Treffynnon a'r Rhyl, lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Yn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grwp Sidan gyda Sioned Mair, gan ryddhau un record hir, Teulu Yncl Sam, ynghyd â dwy record fer.
Ymunodd â'r band Gymraeg, Injaroc, tra yn y brifysgol, ond chwalodd y grŵp wedi naw mis, ar ôl rhyddhau un record hir o'r enw Halen y Ddaear. Un o ganeuon Caryl ar y record hon oedd Calon, cân a recordiwyd yn ddiweddarach gan grwp Diffiniad fel trac disgo yn ystod y 1990au.
Ar ôl gadael y coleg, symudodd i Gaerdydd lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Bilidowcar a'r gyfres bop, Sêr 2. Yno, ffurfiodd y grŵp Bando gyda Titch Gwilym a Myfyr Isaac, a hithau'n brif leisydd. Rhyddhawyd dwy record hir, Hwyl ar y Mastiau (1980) a Shampŵ (1982), record sy'n cynnwys un o ganeuon mwyaf adnabyddus Caryl, sef Chwarae'n Troi'n Chwerw.
Wedi i Bando chwalu, parhaodd i berfformio o dan yr enw Caryl a'r Band. Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983).
Cafodd gyfres deledu ei hun, Caryl, ar S4C rhwng 1983 a 1987 a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys comedi. Ymddangosodd yn y gyfres Dawn yn gwneud dynwarediadau ac yn chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, yn arbennig Glenys, Lavinia a Delyth. Yn ddiweddarach, seiliwyd dwy ffilm deledu ar y cymeriadau hyn, sef Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda Caryl yn ymddangos efo Siw Hughes ac Emyr Wyn.
Yn fwy diweddar, mae Caryl wedi ymddangos ar gyfres Wawffactor, y sioe dalent ar S4C, yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr. Mae hi hefyd yn chwarae'n fyw gyda'i band newydd, y Millionaires.