Caerwys
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caerwys yn dref fechan yn Sir y Fflint, 3 milltir i'r de o Dreffynnon.
[golygu] Hanes
Credir fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis.
Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys gyfraith yn cael ei chynnal yno hyd y 16eg ganrif.
Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i benodu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar y beirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol.
Ganed y llenor a diwinydd Methodistaidd Thomas Jones o Ddinbych ym Mhenucha, ger Caerwys, ym 1756.
[golygu] Yr eglwys
Er nad yw'r eglwys bresenol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13eg ganrif.
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Bwcle | Caerwys | Cei Connah | Y Fflint | Mostyn | Penarlâg | Queensferry | Treffynnon | Yr Wyddgrug |