Caerfyrddin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin |
|
Caerfyrddin (Carmarthen yn Saesneg) yw tref sirol Sir Gaerfyrddin, ar lan Afon Tywi. Mae ganddi boblogaeth o tua 20,000.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Maridunum. Yn ddiweddarach cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yn nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili.
Adeiladwyd castell yno yn y 12fed ganrif ac mae peth o'r olion yno o hyd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn y 13eg ganrif ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf, ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, sefydliad crefyddol Awstinaidd. Mae Coleg y Drindod Caerfyrddin yn y dref hefyd.
[golygu] Yr Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911 a 1974. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974
[golygu] Gefeilldref
Mae Caerfyrddin wedi ei hefeillio â thref Lesneven yn Llydaw.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin |
Brynaman | Caerfyrddin | Castell Newydd Emlyn | Cydweli | Glanaman | Hendy-gwyn ar Dâf | Llandeilo | Llanelli | Llanymddyfri | Porth Tywyn | Rhydaman | Sanclêr |