Bryniau Mendip
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cadwyn o fryniau calchfaen yng ngogledd Gwlad yr Haf yw'r Bryniau Mendip. Mae'r calchfaen wedi erydu mewn mannau i greu ceunentydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Cheddar Gorge a Burrington Combe. Man ucha'r bryniau yw Beacon Batch ar Black Down gydag uchder o 325m uwchben lefel y môr. Mewn rhai ardaloedd mae'r calchfaen yn cynnwys haenau mwynau plwm a sinc. Cafodd y plwm ei fwyngloddio o'r cyfnod Rhufeinig hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ddinasoedd a threfi'r ardal yw Cheddar, Shepton Mallet a Wells.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.