Big Leaves
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Band poblogaidd o Waunfawr, Caernarfon oedd Big Leaves (Beganifs yn wreiddiol) cyn iddynt roi'r ffidl yn y to ym 2005 wedi rhyddhau'r albwm Alien & Familiar. Alien & Familiar oedd un campwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog Oasis ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000. Aelodau'r grŵp oedd Rhodri Sion (lleisiau), Meilir Gwynedd (gitâr, lleisiau), Kevin Tame (bas, lleisiau), Osian Gwynedd (allweddellau, lleisiau) a Matt Hobbs (drymiau).
Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: Pwy Sy’n Galw?. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'Seithennyn'’. Dros hynny, rhyddhawyd nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.
Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y Super Furry Animals a’r Manic Street Preachers.
"Our song Seithenyn has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!"
Amlwg oedd eu talent, ac mae cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i ddiflasu yn eu habsenoldeb.
[golygu] Rhestr o weithiau Big Leaves
- Trwmgwsg (EP, 1998)
- Belinda (EP, 1999)
- Animal Instinct (EP, 2001)
- Siglo (EP, 2001)
- Pwy Sy'n Galw (albym, 2000)
- Alien & Familiar (albym, 2003)