Aneirin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a flodeuai yn hanner olaf y 6ed ganrif, un o'r Cynfeirdd. Mae'n debyg mai Neirin oedd ffurf gynharach ei enw, sy'n tarddu o'r gair Brythoneg tybiedig *naer sydd efallai'n gytras â'r gair Gwyddeleg nár (naill ai "nobl" neu "wylaidd""), yn ôl Ifor Williams.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Nennius
Yn ôl yr hanesydd Cymreig cynnar Nennius (fl. 800) yn ei Historia Brittonum (tua 630), roedd Aneirin yn enwog am ei ganu yn yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr heddiw), ynghyd â'i gyfoeswr Taliesin a Chynfeirdd eraill:
Yn yr amser hwnnw ymladdai Gwrtheyrn yn ddewr yn erbyn cenedl y Saeson. Felly hefyd yr oedd Talhaiarn Tad Awen yn enwog ar gân; a hefyd y bu Aneirin a Thaliesin a Blwchfardd a Cian, a elwid "Gwenith Gwawd", i gyd yn enwog am eu canu. (Historia Brittonum, pennod 62).
[golygu] Tystiolaeth Y Gododdin
Priodolir y gerdd arwrol hir Y Gododdin iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd"). Mae'r ffaith fod y gerdd yn coffhau arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin, yn awgrymu bod Aneirin yn perthyn i'r ardal honno. Ceir cyfeiriad at farwolaeth Aneirin mewn pennill o'r Gododdin (Canu Aneirin, pennill LV) sy'n amlwg yn ychwanegiad diweddarach i'r testun: er pan aeth daear ar aneirin. / nu neut ysgaras nat a gododdin ("Er pan roddwyd daear ar Aneirin / mae Barddoniaeth wedi gadael y Gododdin"). Yn yr un pennill cyfeirir at guarchan mab dwywei ("cân mab Dwywei") ac awgryma'r cyd-destun fod hyn yn cyfeirio at Aneirin. Yn yr hen achau Cymreig mae Dwywei yn ferch i Gwallog mab Llëenog; awgryma Ifor Williams fod Aneirin yn nai Gwallog ac felly'n frawd i Deiniol Sant. Mae cyfeiriad arall yn y Gododdin yn cyplysu Aneirin â Thaliesin: Mi na vi aneirin / ys gwyr talyessin / ovec kywrenhin / neu chein(t) e ododin (ll. 548-51). O'r Awen daw y Gododdin yn hytrach nag o Aneirin ei hun ("Fi-nid fi, Aneirin - mae Taliesin nerthol ei ysbrydoliaeth yn gwybod hyn - fe genais i'r Gododdin").
[golygu] Y Trioedd a gwaith y beirdd
Coffheir Aneirin yn Trioedd Ynys Prydain fel Aneirin Gwawdrydd Mechdeyrn Beirdd, sef "Aneirin Rhwydd-ei-farddoni, Brenin y Beirdd" (Triawd 33, 34). Mae testun Triawd 33 yn llwgr, ond yn Triawd 34 dywedir bod Aneirin wedi cael ei ladd gan Heiddyn â bwyall: Bvyallavt Eidyn ym pen Aneiryn yw un o Teir Anvat Vwyallavt Enys Prydein ("Tri Thrawiad Bwyall Anffodus Ynys Prydain"). Yn y gerdd Anrec Uryen (13eg ganrif efallai) ceir fformiwla cyffelyb i'r hwnnw yn y Trioedd: Aneirin gwawdryd awenyd. Ceir sawl cyfeiriad ato hefyd yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, e.e. Dafydd Benfras sy'n dymuno bendith yr Awen I ganu moliant mal Aneirin gynt / Dydd y cant Ododin (Gwaith Dafydd Benfras, 25.5-6); serch hynny mae'r cyfeiradau ato yn gymharol brin mewn cymhariaeth â'r rhai niferus at Daliesin a Myrddin.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Ail arg. diwygiedig, Caerdydd, 1978). ISBN 070830690X
- N.G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill (Caerdydd, 1995). ISBN 0708313043
- John Morris (gol.), Nennius[:] British History and Welsh Annals (Llundain, 1980). ISBN 0850332974
- A.H. Jarman (gol.), Aneirin: Y Gododdin (Llandysul).
- Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1961).