Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gwrth-Semitiaeth - Wicipedia

Gwrth-Semitiaeth

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Gweler hefyd Semitiaeth a Seioniaeth.

Casineb at Iddewon neu ragfarn yn eu herbyn yw Gwrth Semitiaeth. Yn hanesyddol mae dwy brif ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi bod: Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol (neu Grefyddol), a Gwrth-Semitiaeth Fodern (neu Hiliol).

[golygu] Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol

Roedd hon wedi'i seilio ar y gred mai cymuned grefyddol oedd wedi mynd ar gyfeiliorn oedd yr Iddewon. Yn waeth na hynny, yng ngolwg gwrth-Semitiaid yr Oesoedd Canol, roedd yr Iddewon wedi dewis crwydro oddi ar y llwybr cywir, gan wrthod Iesu Grist fel Meseia, er ei fod e'n hanu o'u cenedl nhw. Ceir engrhraifft ddiddorol iawn o'r meddylfryd hwn yn y Gymraeg yn llyfr dychanol Ellis Wynne, Gweledigaethau y Bardd Cwsg, a gyhoeddwyd yn 1703. Yn hwnnw, mae'r prif gymeriad yn cael ei dywys i "Eglwys yr Iddewon" lle mae'r addolwyr "yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod sbectol lwyd-olau ganddynt, am fod rhyw huchen wrth ysbïo yn tyfu dros eu llygaid, eisiau eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd."

Mae enghraifft weledol drawiadol iawn o Wrth-Semitiaeth Ganoloesol i'w chael yn Eglwys Gadeiriol Strasbwrg, dwyrain Ffrainc, lle mae cerfluniau o ddwy chchwaer yn sefyll o boptu porth yr eglwys. Ar y naill law mae ecclesia (yr eglwys) yn gwisgo coron ac yn cario llond cwpan o waed Crist. Ar y llall, mae synagoga (yr addoldy Iddewig), yn gwisgo cadach dros ei llygad i ddangos ei bod wedi dewis bod yn ddall i wirionedd yr Efengyl.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, arweiniodd credoau gwrth-Iddewig at gryn drais at Iddewon, yn enwedig yn ystod y Croesgadau. Enghraifft arswydus o hyn oedd yr ymosodiad gwaedlyd ar gymuned Iddewig Caerefrog, gogledd Lloegr, wrth iddynt geisio lloches yn Nhŵr Clifford yn 1190.

[golygu] Gwrth-Semitiaeth Fodern

Mae hon wedi'i seilio ar y syniad mai hil yw'r Iddewon, a'u bod nhw fel hil neu genedl yn niweidiol i genhedloedd eraill. Yn rhan o hyn, mae cred bod Iddewon yn cydweithio gyda'i gilydd i reoli economi'r byd er eu mantais eu hunain. Roedd y fath wrth-Semitiaeth yn ffasiynol iawn yn yr 1920au a'r 1930au, gan gael ei hybu gan bobl ddylanwadol fel Henry Ford. Cafodd ei fynegi yn Gymraeg gan Saunders Lewis yn ei gerdd Y Dilyw, lle bwriodd y bai ar fancwyr Iddewig am greu argyfwng economaidd yr 1930au: "Penderfynodd y duwiau...a'u ffroenau Hebreig yn ystadegau'r chwarter, ddod y dydd i brinhau credyd drwy fydysawd aur."

Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf Natsïaeth yr Almaen, pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth Iddewig Ewrop.

Mae rhai'n honni erbyn hyn bod trydedd ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi datblygu, sef Gwrth-Semitiaeth Wleidyddol, wedi'i seilio ar wrthwynebiad i Wladwriaeth Israel. Mae'r honiad hwn wedi deillio o bryder nad yw rhai o wrthwynebwyr Israel yn gwahaniaethu rhwng anghytuno â pholisïau llywodraeth Israel a lladd ar Iddewon yn gyffredinol. Mae mudiad Iddewig y Gynghrair Wrth-Ddifenwi wedi tynnu sylw at y syniadau negyddol iawn am Iddewon fel pobl sydd i'w cael yn y gwledydd Arabaidd dan orchudd beirniadaeth wleidyddol i bolisïau llywodraeth Israel

Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain Ewrop, dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng Nghymru. Bu trefysg gwrth-Iddewig yn Nhredegar yn 1911, pan ymosododd torf ar siopau Iddewon gan ganu emynau Cristnogol. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn Nhredegar, Glyn Ebwy, Cwm a Bargoed.

Link

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com