James Cook
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
James Cook fforiwr |
|
Genedigaeth: |
27 Hydref 1728 Marton yn Cleveland, Lloegr |
Marwolaeth: |
14 Chwefror 1779 Bae Kealakukea, Hawaii |
Ganwyd Capten James Cook ar 27 Hydref 1728 yn Marton yn Cleveland, Lloegr, a chafodd ei ladd ar 14 Chwefror 1779 yn Hawaii. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod gwledydd newydd. Fe luniodd mapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.
Roedd y daith gyntaf (1768-1771) ar yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer sêryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i wneud mapiau arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.
Roedd yr ail daith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfuodd llawer o ynysoedd.
Roedd y trydydd daith (1776-1779) ar longau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y Tramwyfa gogledd-orllewin. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, ble cafodd ei ladd gan bobl yr ynys ar ôl brwydro am gwch a oedd wedi'i ddwyn.
Mae Cook yn enwog iawn am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.