Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ei mawrhydi Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary Windsor) (ganwyd 21 Ebrill 1926), Teitl Swyddogol (Saesneg): Elizabeth the Second, by the Grace of God, of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and of Her other Realms and Territories Queen, Head of the Commonwealth, Defender of the Faith.
Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pennaeth Y Gymanwlad a Llywiawdwraig Eglwys Loegr er marwolaeth ei thad Siôr VI ym 1952.
[golygu] Bywyd
Cafodd ei geni yn Llundain ar 21 Ebrill, 1926. Siôr, Dug Caerefrog (neu Bertie) oedd ei thad. Elizabeth Bowes-Lyon oedd ei mam. Daeth hi yn aeres i'r Goron ar ôl i'w hewythr, Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig, ildio'r Goron i'w thad ym 1936.
Mae hi'n byw ym Mhalas Buckingham, Llundain, a Chastell Windsor, Berkshire.
[golygu] Plant
- Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (Charles Philip Arthur George) (ganwyd 1948)
- Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol (Anne Elizabeth Alice Louise) (ganwyd 1950)
- Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward) (ganwyd 1960)
- Y Tywysog Edward, Iarll Wessex (Edward Anthony Richard Louis) (ganwyd 1964)
[golygu] Cysylltiad allanol
Rhagflaenydd: Siôr VI |
Brenhines y Deyrnas Unedig 6 Chwefror 1952 – |
Olynydd: - |
Brenhinedd a breninesau Prydain a'r Deyrnas Unedig |
Prydain Fawr: Anne | Siôr I | Siôr II | Siôr III |