Cemeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghŷd â'i drawsnewidiadau. Mae'r astudiaeth hon yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin egni a sut mae o'n ymadweithio gyda mater. Mae cemeg hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg folecwlaid. Mae rhan fwyaf mater mewn ffurf atomau, sydd yn aml iawn yn ymgyfuno i ffurfio molecylau. Sylweddau efo pob atom yr un fath yw elfennau, ac yr rhain sy'n cynnwys atomau o wahanol mathau yw cyfansoddion.
Mae'n bosib gweld trefn yr elfennau ar y Tabl Cyfnodol sy'n dangos pa nifer o electronau sydd gan bob un a beth yw pwysau'r elfen hwnnw gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrîn â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.